We use cookies on our website. To learn more about the cookies we use, please see our cookie policy. You can manage cookies via your browser settings. By continuing to browse the site you are agreeing to our use of cookies.
Accept and Close.
Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd a’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.
Bwriad y rhaglen hon yw paratoi myfyrwr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt.
Mae’r Gyfraith yn bwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder.
Mae’r elfen Cymraeg Proffesiynol yn cael ei ddysgu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ar y cwrs yma byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud a defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd a phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.
Student Satisfaction and Employability Results
94% overall student satisfaction for the Department of Welsh and Celtic Studies (NSS 2020).
Pam astudio LLB Y Gyfraith / Cymraeg Professiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Caiff y rhaglen hon ei haddysgu ar y cyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Yn ogystal a'r modiwlau cyfraith sylfaenol, sy'n cynnwys y rhai sydd eu hangen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr (gan ennill 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith'), rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes.
Gellir astudio nifer o fodiwlau’r Gyfraith a Throseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfleoedd eang i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Mae’r Gymdeithas Ymryson yn agored i holl fyfyrwyr yr adran ac mae’n rhoi cyfle i aelodau ddatblygu chystadleuaeth ffug lys barn.?
Our Staff
All academic staff in the Department of Welsh and Celtic Studies are research active scholars and experts in their chosen fields of study, including the study of languages and literatures as well as creative writing.
Department of Law and Criminology lecturers are mostly either qualified to PHD level or have professional experience and qualifications as practicing lawyers. Many staff also have a PGCE (Higher Education).
Modules
Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.
* Also available partially or entirely through the medium of Welsh
Employability
Mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich hyder i ymdrin a’r gyfraith yn ddwyieithog, gan fagu sgiliau trawsieithu, dadansoddi, a chyfosdiad a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer y gweithle ac yn baratoad da ar gyfer eich gyrfa.
Mae graddedigion Adran y Gyfraith a Throseddeg ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog, e.e:
? Addysg;
? Y Cyfryngau;
? Gwaith cymdeithasol;
? Y Gyfraith;
? Cyfieithu.
Mae graddedigion yr adrannau hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel:
? Cyhoeddi llyfrau;
? Swyddi yn y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu;
? Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn y Gyfraith / Cymraeg Proffesiynol yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr.?
Mae’r rhain yn cynnwys:
? ymchwilio a dadansoddi data;
? meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon;
? gweithio’n annibynnol;
? trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn;
? mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig;
? hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth;
? gwaith t?m, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb;
? sgiliau technoleg gwybodaeth.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?
Mae blwyddyn gyntaf ein cyllun gradd yn y Gyfraith yn rhoi sylfaen ichi ar gyfer astudio’r gyfraith, gyda ffocws ar y sgiliau syflaenol sydd eu hangen i ddeall deunyddiau cyfreithiol a’r system gyfreithiol, a hefyd egwyddorion craidd y pynciau cyfreithiol craidd, gan gynnwys cyfraith trosedd ac anghydfodau sifil mewn contractau a chamwedd.
Ar yr ochr Cymraeg Proffesiynol, byddwch chi'n dilyn y modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r maes. Byddwch chi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Byddwch chi'n cael eich dysgu gan ddarlithwyr yr Adran a gan gyflogwyr sydd yn gweithio gyda'r Gymraeg. Bydd cyfle ichi weithio fel t?m ac i ddatblygu eich sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chan. Cewch chi ddysgu mwy am y nosweithiau hynod lwyddiannus hyn ar ein blog. Byddwch chi'n cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr adran. Chi fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith.
Mae’r ail a’r drydedd flwyddyn yn adeiladau ar yr egwyddorion craidd hyn, ond hefyd yn caniatáu ichi archwilio meysydd eraill o’r gyfraith. Gallwch hefyd deilwra eich dewis o fodiwlau dewisol yn unol a’ch diddordebau a’ch dyheadau o ran eich gyrfa.
Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch chi'n dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol:
Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn. Byddwch chi'n cwblhau cyfnod o brofiad gwaith mewn sefydliad lle defnyddir y Gymraeg ar lefel broffesiynol. Mae dewis helaeth o leoliadau gennym gan gynnwys nifer o sefydliadau cenedlaethol felly bydd cyfle ichi gael profiad uniongyrchol o yrfa sydd o ddiddordeb i chi. Byddwch chi'n llunio portffolio o dasgau sy'n ymwneud a'r gweithle.
Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu yw'r modiwl hwn. Byddwch chi'n dysgu sgiliau cyfieithu ymarferol yn ogystal a dysgu am yr hanes a'r theor?au sydd wrth wraidd y gwaith. Bydd cyfle ichi ymarfer eich sgiliau cyfieithu o un iaith i iaith arall ac i addasu o un cyfrwng i gyfrwng arall drwy drosi darn o ryddiaith yn sgript ffilm, rhaglen deledu neu ddrama.
Bro a Bywyd - Modiwl sy’n trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol yw'r modiwl hwn. Byddwch chi'n dilyn darlithoedd ac yn mynd ar deithiau maes i lefydd o arwyddocad diwylliannol. Byddwch chi'n llunio prosiect a fydd yn hybu diddordeb y cyhoedd mewn elfen o'r diwylliant Cymraeg, e.e. llyfryn, podcast, ffilm fer neu ddeunydd ar gyfer gwefan. Dyma enghraifft o un o brosiectau ein cyn-fyfyrwyr: Lluniodd un o'n cyn-fyfyrwyr, Eiri Si?n, ap Mentro Meifod a gallwch ei lawrlwytho yma.
Prosiect Hir - Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle ichi weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Dan gyfarwyddyd aelod o staff, byddwch chi'n llunio darn o waith safonol y gellir ei gyhoeddi.?