澳门威利斯人7376网址-欢迎莅临澳门威利斯人7376网址

  • <table id="lcdue"><strike id="lcdue"></strike></table>

      <track id="lcdue"></track>
      <p id="lcdue"></p>
      <track id="lcdue"></track>
      1. <pre id="lcdue"></pre>

        <p id="lcdue"></p>

            BSc

            Geography

            BSc Geography Code F801

            Apply Now

            Key Facts

            F801
            • UCAS Tariff

              120 - 96

            • Course Length

              3 Year

            Further details on entry requirements

            Apply Now

            Mae Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o’r adrannau mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y m?r, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd Mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sydd o'i chwmpas, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Bydd y radd hon yn eich arfogi a’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu a’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni.?

            Student Satisfaction and Employability Results

            92% overall student satisfaction for the Department of Geography and Earth Sciences (NSS 2020).

            Top 10 in the UK for the subject of Geography & Environmental Science (The Times and Sunday Times Good University Guide 2019)

            97% of our graduates were in work or further study within 6 months, 4% more than Physical Science graduates nationally, (HESA 2018*)

            Overview

            Pam astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

            • Cafodd y rhaglen hon ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth.?

            Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol, yn cynnwys:

            • prosesau dalgylch afon
            • rhewlifeg
            • biodaearyddiaeth
            • newid amgylcheddol cwaternaidd
            • tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon
            • cynaliadwyedd trefol
            • datblygu rhanbarthol
            • daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
            • cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Ia, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill
            • gwobrau teithio sydd ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400)
            • cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu
            • labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol.


            Our Staff

            Department of Geography and Earth Science: lecturers are all qualified to PhD level or working towards a PhD.

            Modules

            Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

            Core

            Module Name Module Code Credit Value
            Earth Surface Environments GS10520 20
            Methodoleg Maes Amgylcheddol DA11220 20
            Researching the World: data collection and analysis GS13020 20

            Core

            Module Name Module Code Credit Value
            Concepts for Geographers GS20410 10
            Geographical Information Systems GS23710 10
            Physical Analysis of Natural Materials GS22010 10
            Quantitative Data Analysis GS23810 10

            Options

            Module Name Module Code Credit Value
            Daearberyglon DA22810 10
            Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
            Geomorffoleg Afonol DA22510 10
            Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
            Placing Culture GS22920 20
            Reconstructing Past Environments GS21910 10
            The Frozen Planet GS23510 10

            * Also available partially or entirely through the medium of Welsh

            Employability

            Beth gallaf ei wneud a gradd mewn Daearyddiaeth?

            Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.

            Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser.

            Ymhlith y setiau sgiliau y mae:

            • Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol
            • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
            • Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
            • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o d?m
            • Sgiliau rheoli amser a threfnu
            • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar
            • Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth

            Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a Lleoliadau Myfyrwyr?

            Mae profiad gwaith yn ystod eich gradd yn ffordd bendant o wella eich siawns o gael swydd ar ?l graddio. I helpu gyda hyn, anogir myfyrwyr yr Adran i gymryd rhan yn y cynllun BMG rhwng ail flwyddyn a blwyddyn derfynol eu gradd, sy’n golygu treulio 12 mis yn gweithio am dal cyn cwblhau eu gradd.

            Mae bwrsariaethau ar gael yn ogystal i gefnogi lleoliadau myfyrwyr byrrach yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn, byddwn yn cynnal cystadleuaeth sy’n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau gwaith trwy adroddiadau a chyflwyniadau llafar, a bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ac adborth gan aelodau o’r gymuned fusnes sydd ar y panel beirniaid.

            Cyfleoedd Rhyngwladol?

            Yn ogystal a phrofiad o fyd gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu gyda theithiau israddedigion. Ymhlith y lleoliadau diweddar roedd Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.

            Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf a nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.?

            Learning & Teaching

            Beth fydda i'n ei ddysgu?

            Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

            Yn eich blwyddyn gyntaf, fe’ch cyflwynir i:

            • gysyniadau allweddol mewn astudiaethau daearyddol
            • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
            • newid hinsawdd
            • prosesau’r tirwedd
            • datblygiad economaidd
            • globaleiddio.

            Yn eich ail flwyddyn byddwch yn datblygu ymhellach yn y meysydd canlynol:

            • eich maes
            • sgiliau labordy ac ymchwilio ar gyfrifiadur wrth baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
            • dadansoddi setiau data meintiol
            • cynhyrchu mapiau a graffiau eraill i gynrychioli data daearyddol
            • cymryd rhan mewn taith faes breswyl yn y DU neu dramor.

            Cewch hefyd astudio modiwlau dewisol ar gyfer arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

            Yn eich trydedd flwyddyn:

            • byddwch yn gwneud prosiect ymchwil annibynnol fydd yn golygu casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
            • bydd gennych eich cynghorydd personol i’ch arwain
            • bydd modiwlau dewisol amrywiol yn cynnwys rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd y gorffennol, trefoli, a newid yng nghefn gwlad, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd a’ch diddordebau chi.?

            Sut bydda i'n cael fy addysgu?

            Caiff ein cyrsiau eu dysgu trwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol mewn labordai neu ar gyfrifiaduron, dosbarthiadau tiwtorial i grwpiau bychain, cyrsiau maes a goruchwylio gwaith prosiect unigolion.

            Sut bydda i'n cael fy asesu?

            Byddwn yn asesu ein myfyrwyr trwy ystod amrywiol o ddulliau. Caiff ambell fodiwl ei asesu’n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond bydd gan eraill elfennau o waith cwrs. Mae gennym hefyd fodiwlau all ofyn i’r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, cynllunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar lein. Bydd rhai modiwlau, sef y tiwtorialau a’r cyrsiau maes yn benodol, yn cael eu hasesu’n llwyr trwy waith cwrs.?

            Student Views

            Yr hyn apeliodd ataf am y cwrs oedd y cyfle i wneud modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn grwpiau dysgu bach, enw da’r adran a’r amrywiaeth o bynciau diddorol a ddysgir megis daearyddiaeth wleidyddol, daearyddiaeth economaidd a daearyddiaeth yr Unol Daleithiau. Fe fues i’n ddigon lwcus i deithio i Efrog Newydd ar drip gwaith maes gyda’r adran gan astudio ffactorau trefol a naturiol cymhleth y ddinas wrth brofi’r awyrgylch hollol unigryw sydd yno. Roedd y profiad yn un cyffrous a bythgofiadwy. Teimlaf fy mod wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd, ehangu fy ngorwelion a herio fy hun yn gyson tra fy mod yn yr adran. Dau o fy hoff fodiwlau oedd Adnoddau D?r a Hydroleg Fydol a Daearyddiaeth y Wladwriaeth a Chenedlaetholdeb gan eu bod yn canolbwyntio ar faterion cyfoes o bwys a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Angharad Thomas

            Typical Entry Requirements

            UCAS Tariff 120 - 96

            A Levels BBB-CCC

            GCSE requirements (minimum grade C/4):
            English or Welsh and Mathematics

            BTEC National Diploma:
            DDM-MMM

            International Baccalaureate:
            30-26

            European Baccalaureate:
            75%-65% overall

            The University welcomes applications from students studying the Access to Higher Education Diploma. Our inclusive admissions policy values breadth as well as depth of study. Applicants are selected on their own individual merits, and offers can vary. If you are studying a qualification not listed on this page, please get in touch with the Undergraduate Admissions Office for further advice. Details about the country-specific qualifications the University accepts can be found on our country-specific pages. For further information, contact ug-admissions@aber.ac.uk

            Back to the top
            澳门威利斯人7376网址