We use cookies on our website. To learn more about the cookies we use, please see our cookie policy. You can manage cookies via your browser settings. By continuing to browse the site you are agreeing to our use of cookies.
Accept and Close.
Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi’n astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri sy’n arloesi o ran dysgu ac ymchwil, sef Adran y Gymraeg a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Mae’r ddwy adran yn cynnig amrywiaeth ddigymar o ddewisiadau i fyfyrwyr, arbenigedd staff a’r cyfleusterau diweddaraf. Maent yn cyfuno dulliau creadigol a beirniadol o ymdrin a’u ddisgyblaethau drwy waith ymarferol arloesol ac ymchwil ysgolheigaidd heriol.
Student Satisfaction and Employability Results
90% overall student satisfaction for the Department of Theatre, Film and Television Studies (NSS 2020).
100% of our graduates were in work or further study within 6 months, 6% more than Language graduates nationally (HESA 2018*)
Overview
Pam astudio Cymraeg a Ffilm a Theledu yn brifysgol Aberystwyth??
Adran fywiog a chreadigol??lle mae drama a theatr, ffilm a chyfryngau a senograffeg a dylunio theatr yn gwrthdaro a’i gilydd.
Mae gradd yn y Gymraeg a Ffilm a Theledu yn agor drysau ac mae gwerth arbennig i’r cwrs hwn gan fod safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib.
Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r manylion ar gael yn llawn ar y dudalen Dysgu ac Addysgu.
Staff dysgu rhagorol ag ystod eang o arbenigedd wrth ymchwilio ac ym maes llunio-theatr proffesiynol
Cysylltiadau a phartneriaid allweddol mewn diwydiant, megis?National Theatre Wales,?Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine, a Theatr Genedlaethol Cymru.
Cyfleusterau ac adnoddau arbennig ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, a chyfleusterau technegol hyblyg ym mhob un ohonynt; 2 stiwdio a chyfarpar proffesiynol a rigiau golau digidol yn cael eu rheoli trwy gonsolau ETC Congo a Strand Lighting, PAs Yamaha a Soundcraft, systemau Sanyo AV a goleuo Strand a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd
Cysylltiadau agos a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, un o’r canolfannau celfyddydau fwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatrau cenedlaethol a rhyngwladol a gwaith dawns yn rheolaidd.
Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau’r eflen gymdeithasol sydd i’r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi’r Geltaidd, ymunwch a ch?r Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau’r Selar.
Our Staff
All academic staff at the Department of Theatre, Film and Television Studies are research active and/or involved in Knowledge Transfer projects and have either relevant academic qualifications at doctoral level or equivalent professional experience and expertise.
All academic staff in the Department of Welsh and Celtic Studies are research active scholars and experts in their chosen fields of study, including the study of languages and literatures as well as creative writing.
Modules
Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.
* Also available partially or entirely through the medium of Welsh
Employability
Beth gallaf ei wneud a gradd Cymraeg a Ffilm a Theledu?
Mae llawer o’n myfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau gwaith yn y meysydd canlynol;
Cyfarwyddo
Dylunio
Ysgrifennu sgriptiau
Addysgu ac addysg
Gweinyddu’r celfyddydau
Marchnata
Rheolaeth
Cysylltiadau cyhoeddus
Pa sgiliau fyddaf yn eu hennill o’r radd hon?
Mae cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o’n holl weithgareddau.
Bydd myfyrwyr Drama ac Astudiaethau Theatr yn meithrin y sgiliau gwerthfawr canlynol sy’n bwysig i gyflogwyr. Ymhlith y rhain y mae’r gallu i:
Weithio’n effeithiol mewn grwpiau i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
Rhoi sgiliau creadigol, dychmygus a datrys-problemau ar waith mewn amryw sefyllfaoedd
Ymchwilio, cloriannu a threfnu gwybodaeth
Strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn sefyllfaoedd amrywiol a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
Gweithio’n annibynnol a gydag eraill
Trefnu eich amser yn effeithiol a rhoi eich sgiliau ar waith
Gwrando ar gyngor beirniadol, a’i ddefnyddio
Cymell eich hun a bod yn hunanddisgybledig
Defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
Bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio??
Cliciwch yma?i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae t?m Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.?
Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda?GO Wales a BMG?(y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Learning & Teaching
Beth fyddi di’n ei ddysgu??
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn darganfod:
Modiwlau rhagarweiniol ar lunio, meddwl ac astudio, hanes o Ffilm a Theledu.?
Pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Byddwch chi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc fel y gallwch ddylunio eich cyfuniad unigryw chi o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Dulliau cyfoes o lunio theatr yn y stiwdio ac ar leoliad
Adegau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol mewn drama a theatr
Dewis o modiwlau rhwng sinema prydeinig, sinema clasur Hollywood a y cyfryngau.?
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:?
Llunio theatr gyfoes trwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol
Modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu eich hyder ymhellach a byddwch chi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran.
Gwaith cynhyrchu ar raddfa fawr
Datblygu sgillau mewn cynhyrchiad stiwdio, rhagelennau ddogfen, ysgrifennu sgrip am ffilmiau a theledu.?
Datblygiad Theatr Ewrop fodern
Shakespeare mewn perfformiadau cyfoes
Theatr a’r gymdeithas gyfoes
Cyfryngau Newydd ac ysgrifennu perfformiadau
Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle:
I greu gwaith creadigol annibynnol
I ymgymryd a phrosiect ymchwil mawr ac astudiaethau damcaniaethol uwch
I ymestyn eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu annibynnol a chyfunol
I ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd wrth gynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol
I lunio eich sgript ddrama eich hun
I astudio modiwlau arbenigol all fod yn trafod: gofod, lle a thirlun, perfformiad ac athroniaeth, perfformiad, gwleidyddiaeth a phrotest, theatr, rhywedd a rhywioldeb, perfformiad a phensaern?aeth, theatr gerdd newydd, a drama gyfoes Prydain ac Iwerddon.
Sut byddaf yn cael fy nysgu?
Byddwch yn cael eich dysgu trwy weithdai ymarferol, seminarau ar gyfer grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu a gwaith prosiect ar gyfer grwpiau.
Rydym yn dysgu trwy amryw ddulliau, gan gwestiynu theori trwy ymchwilio ymarferol ac ymarfer trwy lygaid amrywiol safbwyntiau damcaniaethol.?
Byddwch yn cael eich asesu trwy draethodau ffurfiol ac wedi’u perfformio, arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau gr?p.?
Bydd gennych diwtor personol drwy gydol eich cynllun gradd, a fydd yn eich helpu gyda phroblemau neu ymholiadau academaidd neu bersonol. Gallwch gysylltu a’ch tiwtor unrhyw bryd am gymorth a chyngor.?
Student Views
Ers gadael y Brifysgol yn Aberystwyth rydw i nawr yn gweithio ar raglenni plant i gwmni teledu Boomerang yng Nghaerdydd. Roeddwn i wastad wedi bod eisiau gweithio yn y cyfryngau, felly roedd y dewis i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn un hawdd. Dros y tair blynedd, bues yn ffodus iawn i ddysgu gan ddarlithwyr profiadol, deallus, a oedd o hyd yn barod i helpu, ac fe gafon ni dipyn o hwyl drwy gydol y cwrs. Cefais gyfle i ddefnyddio amrywiaeth eang o offer modern a oedd yn golygu fod gennyf y gallu a’r ddealltwriaeth i weithio gyda’r offer diweddaraf wrth fynd allan i’r byd mawr i chwilio am waith. Mae Aberystwyth yn sicr yn le hoffus iawn i astudio, ac nid yn unig y mae’r cwrs wedi ei gynllunio mewn ffordd sy’n rhoi’r cyfle i bobl astudio pob agwedd ar fyd teledu, ond mae hefyd yn rhoi’r gallu i’r unigolyn adeiladu’r cwrs mewn modd sy’n caniatáu iddyn nhw ddysgu’r sgiliau priodol sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Rhywbeth sydd wedi bod o help mawr i mi yn bersonol ydy’r ffaith fod gan yr Adran yn Aberystwyth gysylltiadau da a chwmni teledu Boomerang, a oedd yn golygu fod nifer o’r myfyrwyr, yn cynnwys fi, wedi cael y cyfle i wneud profiad gwaith gyda’r cwmni, yn enwedig tra roeddynt yn defnyddio stiwdio o fewn ein Adran i recordio rhaglenni. Golygodd hyn i Boomerang gynnig swydd i mi yn syth wedi gadael Aberystwyth. Felly rydw i’n hynod o ddiolchgar i’r Adran, a’r darlithwyr am y cyfleodd y maent wedi’u rhoi i mi. Mi wnes i fwynhau pob eiliad o fy amser yn Aberystwyth, ac mae wir yn lle sy’n cynnig bywyd myfyriwr anhygoel, heb s?n am roi’r profiad a’r ddealltwriaeth sydd angen ar fyfyrwyr i ddechrau ar eu gyrfa. Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd a diddordeb yn y maes i ystyried y cwrs yma o ddifri. Nathan Ifans